Sul, 27 Mai 2012
am 6 0′r gloch – Arfon Jones
Filed under Cartref, Diweddaraf
Mae Pregeth Mike Adams nawr ar gael yma
Filed under Cartref, Diweddaraf, Pregethau
Sul, 29 Ebrill 2012
am 6 o’r gloch – Mike Adams
Nos Sul rydyn ni’n croesawu Mike Adams yn ôl i Darganfod. Mae Mike a’i deulu yn byw yn Llanelli ac nid yn unig byddwn yn gwrando arno yn pregethu ond cawn glywed ychydig o hanes ei waith.
Filed under Cartref, Diweddaraf
Mae pregeth Peter Hallam nawr ar gael yma
Filed under Cartref, Diweddaraf, Pregethau
Nos Sul, 25 Mawrth 2012 am 6 o’r gloch
Siaradwr – Peter Hallam
Y tro hwn rydyn ni’n dod i air olaf yr Arglwydd Iesu ar y groes cyn iddo farw. Mae yna rhyw arwyddocâd yn aml i eiriau olaf unrhyw berson ar y ddaear. Ac felly gyda’r Iesu cyn iddo grymu ei ben a chyflwyno ei Ysbryd i’w Dad. Roedd marwolaeth Iesu yn wahanol i farw pob un arall a fu neu a fyddai erioed. Heno byddwn yn ceisio ystyried beth yw arwyddocâd marwolaeth y groes. Beth mae geiriau’r Iesu yn dweud amdano Fe – ac amdanom ni. Mae croeso cynnes i chi ymuno gyda ni i wrando ac i addoli. Edrychwn ymlaen i’ch gweld. Os na allwch ymuno byddwch yn gallu gwrando ar y bregeth ynghyd â phregethau eraill ar y wefan hon.
Filed under Cartref, Diweddaraf
Mae pregeth Wyn Jones nawr ar gael yma
Filed under Cartref, Diweddaraf, Pregethau
Nos Sul, 26 Chwefror am 6 o’r gloch
Siaradwr – Wyn Jones
Mae Darganfod y mis hwn yn wahanol i’r arfer gan ein bod yn parhau gyda chyfres sy’n digwydd yn Saesneg yn yr eglwys hon ar nosweithiau Sul.
Mae’r gyfres yn ystyried y geiriau – saith o ymadroddion i gyd – a lefarodd Iesu ar y Groes. Yn ein cyfarfod bydd Wyn Jones yn ein harwain yn y drydedd yn y gyfres. Dyma’r geiriau a lefarodd Iesu wrth ei fam, Mair, a Ioan, y disgybl annwyl. Mae’r geiriau i’w gweld yn Efengyl Ioan, pennod 19, adnodau 26-27.
Mae croeso cynnes i bawb – edrychwn ymlaen i’ch gweld.
Filed under Cartref, Diweddaraf